Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Tachwedd 2019
Amser:
09.34 -
11.11
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5748
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dawn Bowden AC (Cadeirydd dros dro) Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
2.2 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith craffu ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a chytunodd arno.
3.1 Oherwydd bod John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor, wedi anfon ei ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros dro. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafodd Dawn Bowden ei henwebu gan Caroline Jones, ac fe’i hetholwyd yn briodol.
3.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
3.3 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Leanne Wood AC.
4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
4.2 Cafodd y sesiwn hon ei gohirio a'i hail-drefnu ar gyfer dydd Iau 5 Rhagfyr.
· 5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â'r Llywydd ynghylch amserlen Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
· 5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ynghylch adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.